Cwestiynnau Cyffredin

Os oes gennych gwestiwn am nofio i fabanod sydd heb ei ateb yma, ffoniwch Nia ar 07928185139 am sgwrs gyfeillgar.

Pam dewis yr Ysgol Nofio Babanod?

Rwy'n hyfforddwr nofio annibynnol dwyieithog a dysgu babanod a phlant i nofio yw fy angerdd. Fel hyfforddwr annibynnol rwy’n cymryd yr amser i ddod i adnabod pob un o’m disgyblion a’m rhieni ac yn ymdrechu i’ch cefnogi chi a’ch plentyn ar eich taith nofio. Trwy ddewis yr Ysgol Nofio Babanod gallwch fanteisio ar fy mlynyddoedd o arbenigedd yn ogystal â sefydlu pwynt cyswllt gydag arbenigwr nofio ymroddedig sydd bob amser yn hapus i helpu.

Pryd gall fy mabi ddechrau nofio?

Gall babanod ymuno â'r hwyl o 12 wythnos oed ymlaen, a phan fyddant yn pwyso 12 pwys (5.4kg). Rwy'n argymell yr oedran a'r pwysau yma oherwydd tymheredd ein pyllau lleol.

Beth allwch chi ei ddweud wrthyf am eich dosbarthiadau?

Mae fy nosbarthiadau yn grwpiau bach cyfeillgar o rieni neu ofalwyr a babanod neu blant bach. Rwyf bob amser yn anelu grwpio plant o oedran a gallu tebyg tra'n cadw rota'r dosbarth yn hyblyg. Rwy'n deall bod bywyd gyda phlant ifanc yn gallu bod yn heriol, felly os na allwch chi gyrraedd un wythnos allan o'r tymor, peidiwch â phoeni! Rhowch wybod i mi a byddaf yn gwneud yn siŵr nad ydych yn colli allan.

Beth sy'n fy nghymhwyso i ddysgu'ch plentyn i nofio?

Mae gen i gymwysterau athrawon llawn STA (Cymdeithas Athrawon Nofio), yn arbenigo mewn babanod a chyn-ysgol. Rwyf hefyd wedi fy yswirio'n llawn trwy'r STA wrth addysgu yn y pwll ac mae gennyf dros 15 mlynedd o brofiad fel hyfforddwr nofio.

Sut mae'r gwersi'n gweithio?

Mae fy nosbarthiadau bach, cymdeithasol yn anffurfiol ac yn hamddenol gyda phwyslais ar gael llawer o hwyl. O ganu, tasgu a diogelwch dŵr, mae fformat fy nosbarth wedi’i adeiladu o amgylch rhaglen 40 wythnos yn ystod y tymor ysgol gydag amcanion pendant. Y nod yw i'ch plentyn allu nofio cyn gynted ag y mae'n gorfforol abl - tua 3 i 4 oed.

Sut gall babanod nofio o dan y dŵr?

Pan fydd babanod ar fin cael eu rhoi o dan ddŵr mae ganddyn nhw atgyrch sy'n atal dŵr rhag mynd i mewn i'w hysgyfaint. Mae fy nhechnegau addysgu yn gweithio gyda'r atgyrch naturiol hwn i reoleiddio anadlu a helpu i roi hyder a rheolaeth.

Beth sydd angen i mi ddod i'r gwersi?

Ar gyfer babanod a phlant bach nad ydynt wedi dysgu defnyddio poti eto, bydd angen clwt nofio, "happy nappy" neoprene, a gwisg nofio priodol (e.e wetsuit) i'ch babi wisgo ar ben y ddwy haen sylfaenol. Darllenwch fwy am beth i ddod yma...

A oes angen i ni ddod â gogls neu gymhorthion hynofedd?

Nag oes. Ond mae croeso i chi ddod â'ch gogls eich hun fel oedolyn os yw'n eich helpu chi'n bersonol (peidiwch â phoeni os byddwch yn anghofio dod rhai, mae gennyf bâr gyda mi bob amser yn y pwll). Yn gyffredinol, nid wyf yn argymell cymhorthion hynofedd na gogls ar gyfer babanod neu blant bach sy'n mynychu unrhyw un o'm gwersi. Po gynharaf y gall plentyn nofio heb fod angen cymhorthion, y gorau fydd eu hyder yn y dŵr wrth iddynt dyfu i fyny, yn enwedig mewn sefyllfaoedd pan fyddant yn y dŵr heb yr ategolion hyn!

A fyddaf yn cael cyfle i gwrdd â rhieni eraill?

Byddwch! Mae fy nosbarthiadau yn lle gwych i gwrdd â rhieni newydd a phrofiadol eraill. O sgwrsio yn yr ystafell newid neu wrth ymyl y pwll, rwyf wedi cael llawer o rieni yn ffurfio cyfeillgarwch parhaol dros y blynyddoedd sydd wedi parhau ymhell y tu hwnt i'm dosbarthiadau nofio. Mae hefyd caffi ar safle Plas Menai sy'n rhoi cyfle i famau a thadau fynd am baned a sgwrs ar ôl gwersi.

Barod i archebu? Ffoniwch Nia ar 07928185139!