Beth i ddod i'r gwersi?

Rwy’n deall bod mynd â’ch plentyn i nofio yn gam mawr ac rwy’n hapus i ateb unrhyw un o’ch cwestiynau cyn i chi ymrwymo i wersi. Cliciwch yma am restr o gwestiynau cyffredin neu rhowch alwad i mi ar 07928185139 am sgwrs!

Dillad Nofio Hanfodol

Ar gyfer babanod a phlant bach sydd ddim yn defnyddio'r poti eto, bydd angen yn gyntaf gwisgo clwt nofio untro, wedyn "happy nappy", ag yna gwisg nofio priodol (wetsuit) i'ch plentyn wisgo dros ben y ddwy haen waelod.

Nid yw clytiau nofio tafladwy yn arbed gollyngiadau ar eu pen eu hunain, felly dyna pam mae angen "happy nappy" neoprene am eu pen i atal unrhyw ollyngiadau clwt rhag mynd i'r pwll. Yna mae haenen gwisg nofio priodol (e.e wetsuit) yn cadw'ch plentyn yn gynnes yn ystod y wers nofio.

Rwy'n hapus i roi cyngor ar mathau o ddillad nofio babanod, ac rwyf hefyd yn gwerthu siwtiau newydd sbon neu ail law - os hoffech archebu siwt rhowch alwad i mi neu anfonwch neges ataf!

Gair o gyngor #1: Dewch â chlwt nofio untro sbâr rhag ofn y bydd damweiniau annisgwyl!

Gair o gyngor #2: Solidau yn unig mae clytiau nofio yn eu dal, felly cadwch hyn mewn cof os byddwch yn newid eich plentyn cyn teithio i'r pwll!

Gair o gyngor #3: I chi'ch hun, rwy'n argymell dod â thywel poncho. Mae'n eich cadw'n gynnes ac yn sych gyda'ch dwylo'n rhydd wrth i chi sychu a newid eich plentyn!

Awgrym Bag Nofio

Bydd gan bob rhiant a phlentyn anghenion a hanfodion gwahanol ar gyfer nofio, a bydd hyn wrth gwrs yn amrywio yn ôl oedran eich plentyn. Mae’r rhestr bag awgrymedig hon wedi’i llunio fel man cychwyn i chi: